Home
The MONTV Academy Print E-mail

autocue

For Welsh Translation please scroll down

MONTV – one of the UK’s first and most successful internet TV stations – has now opened the MONTV Academy, offering candidates real hands-on training in making films, documentaries and news items for broadcast. The trainers are top industry broadcast professionals in TV and film.

Trainees will learn from professionals how to make good TV and gain genuine experience in each step of the production process – from research to presenting,  filming to editing and sound. At the end of the course, their films will be broadcast on MONTV and in the special student showcase area of the MONTV Academy.

Courses in:autocue
•    Presenting
•    TV journalism
•    News
•    Documentaries
•    Editing
•    Natural history
•    Sports
•    Film
•    Budgeting and Scheduling

Masterclasses
One-to-ones
Weekend intensive seminars
Week long intensives
City and Guilds 2-week certificates
City and guilds Level 3 Diplomas

on the roadAll courses also available part-time (evenings and selected Saturdays).

The MONTV Academy is located in the beautiful market town of Monmouth in Wales, UK

 

 

 

Academi MONTV – Lleoliadau wedi’u Hariannu


Nid dosbarth yn unig yw Academi MON TV. Wedi’i chysylltu â gorsaf ddarlledu rhyngrwyd lwyddiannus, mae Academi MON TV yn cynnig profiad go iawn o gynhyrchu ffilmiau, rhaglenni dogfen ac eitemau newyddion i’w darlledu i’r ymgeiswyr gan dderbyn hyfforddiant gan broffesiynolwyr blaengar y maes. Dysgwch sut i greu eitemau newyddion, ffilmiau a rhaglenni dogfen, agweddau cyflwyno, golygu a sain neu hyd yn oed cynhyrchu eich ffilm hyrwyddo neu’ch hysbyseb eich hun. Wedyn, bydd eich ffilmiau yn cael eu darlledu o fewn adran arbennig MON TV ar gyfer arddangos gwaith myfyrwyr. Fel canolfan hyfforddi sydd wedi’i hachredu gan City & Guilds, gallwn gynnig diplomâu a thystysgrifau City & Guilds i’n hyfforddeion. Mae’r cyrsiau hyn sydd wedi’u cydnabod gan y maes ar gael ar ffurf llawn amser, rhan amser, gyda’r nos ac yn ystod y gwyliau.
Cyllid 
Mae Academi MON TV yn cynnig nifer cyfyng o leoedd rhad ac am ddim ar gwrs Cynhyrchu Fideo City & Guilds. Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae’n rhaid bod ymgeiswyr y lleoedd sydd wedi’i sybsideiddio yn llawn yn byw yn Sir Fynwy ac yn 18 oed neu’n hŷn. Mae’r cyrsiau llawn amser yn rhedeg am un mis neu maent ar gael yn rhan amser dros wyth wythnos. Cysylltwch â This e-mail address is being protected from spam bots, you need JavaScript enabled to view it am fanylion pellach.


 TYSTYSGRIF LEFEL 3 CITY & GUILDS MEWN CYNHYRCHU FIDEO
Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i hyfforddeion ennill profiad llaw gyntaf o holl agweddau cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu. Bydd pob un o’r hyfforddeion yn cynhyrchu ffilm 3 i 5 munud o hyd. Efallai bod modd i chi adrodd ar ddigwyddiad neu stori leol. Os ydych chi’n rhan o fusnes, grŵp neu gymdeithas leol efallai y bydd modd i chi ddefnyddio hyn fel cyfle i gynhyrchu fideo hyrwyddo neu hysbyseb. Bydd hyfforddeion yn defnyddio camera ac offer golygu proffesiynol a bydd y ffilmiau’n cael eu darlledu ar MonTV. Bydd yr hyfforddeion yn cydweithio gan helpu ei gilydd o ran paratoadau cynhyrchu a ffilmio. 

 

Lleoliad

Wedi’i lleoli yn nhref farchnad hanesyddol, brydferth Trefynwy a Dyffryn Gwy (Y Deyrnas Unedig), mae canolfan hyfforddi yr Academi o fewn plas traddodiadol godidog Tŷ Drybridge.
CYFARWYDDIADAU
MONTV Sut i ddod o hyd i ni
Mae dod o hyd i MONTV yn ddigon hawdd – rydym ychydig oddi ar yr A40 ar gyrion canol y dref.
O Gasnewydd / Caerdydd (M4/A449/A40)
1. Ar ôl mynd heibio arwyddion i’r Fenni a Brynbuga (ar yr A449/A40), ewch drwy dwneli Trefynwy a throi i’r chwith, wedi arwyddo Trellech.
2. Wrth y cylchfan (garej ar y chwith) – ewch syth ymlaen a thrwy un set o oleuadau traffig.
WEDYN DILYNWCH GYFARWYDDIADAU ‘POB FFORDD’ 
O Ross (M5/M50/A40)
1. Ewch dros y cylchfan cyn Trefynwy ond peidiwch â mynd i’r dref ei hun. Dilynwch y ffordd ddeuol (A40) tuag at dwneli Trefynwy.
2. Ewch drwy un set o oleuadau traffig a throi i’r chwith cyn y twneli (wedi’i arwyddo Trellech). Ewch lan y bryn a throi i’r dde wrth y gyffordd T.
3. Wrth y cylchfan (garej ar y chwith) – trowch i’r chwith a mynd trwy un set o oleuadau traffig.
WEDYN DILYNWCH GYFARWYDDIADAU ‘POB FFORDD’ 

O Gas-gwent (M4/A4136 ffordd Dyffryn Gwy/A40)
1. Dewch i gyrion y dref dros bont Wy (bydd Ysgol Trefynwy o’ch blaen).
2. Trowch i’r chwith i ymuno â’r ffordd ddeuol (A40) tuag at Gaerdydd.
3. Trowch i’r chwith cyn y twneli (wedi’i arwyddo Trellech). Ewch lan y bryn a throi i’r dde wrth y gyffordd T.
4. Wrth y cylchfan (garej ar y dde) – trowch i’r chwith a mynd trwy un set o oleuadau traffig.
WEDYN DILYNWCH GYFARWYDDIADAU  ‘POB FFORDD’
POB FFORDD
Ar ôl y goleuadau traffig, wrth y cylchfan nesaf (porthdy hynafol a Stryd Mynwy ar y dde) – ewch syth ymlaen.

Wrth y cylchfan nesaf (tafarn Britannia ar y dde) – gwelwch Bontydd o’ch blaen. Ewch i’r fforc ar y dde a throi i’r ail chwith i’r ail fynedfa.

MONTV
Tŷ Drybridge
Parc Drybridge
Trefynwy
Sir Fynwy NP25 5AS